Delwedd pennawd Newyddion
Tudalen flaen
English
Criw teledu
Logo LlGC

Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae'ch Archif yn eich angen CHI!

Pryd oedd y tro diwethaf ichi mynd i fyny i'ch atig? Neu ichi ymweld â'r sied yng ngwaelod yr ardd? Pryd o'dd y tro diwethaf ichi glirio allan yn drwyadl? Pwy a ŵyr pa drysorau, trysorau Cenedlaethol hyd yn oed, sy'n llechu ymhlith yr annibendod, yn mynd yn anghof? Yn Ninas Dawson, yr UDA, cafodd 500 o rîls ffilm eu darganfod mewn iâ parhaol, 49 o flynyddoedd ar ôl iddynt gael eu claddu yno!

Felly, nawr yw'r amser efallai i wisgo eich Marigolds a dechrau chwilio. Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, yn ei awditoriwm newydd y Drwm, yn cynnal Diwrnod Cadwraeth Blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Sadwrn Seliwloid, Dydd Sadwrn 18fed Medi.

Mae'r diwrnod yn cychwyn gydag Amnest Ffilm, cyfle i chi, yn null yr Antiques Roadshow, ddod â'ch trysorau ffilm personol gyda chi a'u trafod gyda staff yr Archif. Boed yn ffilmiau hen, offer sinema neu memorabilia, dyma gyfle i chi ddod i ddeall mwy am eich trysorau ffilm, ac hefyd mae'n gyfle i staff yr Archif gwrdd â chasglwyr a phobl gyda chariad at ffilm o ardal Aberystwyth.

Yn dilyn yr Amnest Ffilm, bydd John Reed, Swyddog Cadwraeth yr Archif, yn cyflwyno Gweithdy Cadwraeth Ffilm am 2.00pm, i drafod pwysigrwydd cadw ac adfer hen ffilmiau. Mae John Reed yn un o gadwraethwyr mwyaf blaenllaw Prydain, ac yn ei gyflwyniad ceir cip tu ôl i'r llenni i weld un o agweddion pwysicaf gwaith yr Archif - sef cadw a diogelu etifeddiaeth ffilm a thraddodiadau Cymru er mwyn y cenedlaethau i ddod.

Yn drydydd ar arlwy y diwrnod cadwraeth ceir 3 ffilm danbaid mewn sioe ffilm o'r enw This Film is Dangerous. Cafodd y casgliad hwn, sy'n cynnwys y ffilm The Love Test o'r 1920'au, ei ddangos yn ystod Gŵyl Ffilm Llundain y llynedd. Mae'r rhaglen yn dechrau am 3.00pm gyda ffilm yr Archif Handle with Care - a greuwyd mewn gweithdy addysg ffilm a drefnwyd gan AGSSC. Cafodd y ffilm hon ei henwebu yn ddiweddar am wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Plant Ryngwladol Chicago.

Mae'r casgliad yn dangos natur beryglus cadwraeth ffilm a gweithio gyda ffilm seliwlos nitrad. Efallai bod rhai ohonoch yn cofio'r ffilm boblogaidd o dramor Cinema Paradiso (1989), gyda Salvatore yn achub ei ffrind Alfredo, taflynydd y sinema leol, rhag fflamau brawychus tân ffilm nitrad; golygfa sy'n mynegi'n glir natur ddinistriol y ddeunydd. Seliwlos nitrad a ddefnyddiwyd yn arferol ar gyfer ffilm hyd at y 1950'au, er mor beryglus yw'r deunydd am ei bod yn fflamadwy iawn. Mae'r perygl cryf o dân yn cynyddu wrth fod y ffilm yn heneiddio. Nid yn unig yw'r ffilm yn llosgi'n rwydd ac yn afreolus gyda fflam boeth enbyd sy'n debygol o ffrwydro, ond mae hefyd yn cynhyrchu mwg trwchus, gwenwynig wrth losgi sy'n cynnwys llawer iawn o ddeuocsid nitraidd. Esbonia John fod sawl archif "mewn sefyllfa annymunol iawn lle maent yn gorfod storio nifer helaeth o ffilmiau nitrad, rhywbeth y mae meddwl amdano'n ddigon i godi arswyd ar y dewraf o swyddogion diogelwch".

Ond peidiwch â phoeni, mae ffilmiau nitrad yr Archif wedi'u storio'n ddiogel ac yn cael eu trin yn ofalus! Nid yw'n debyg iawn y dewch chi ar draws ffilmiau ffrwydrol yn eich atig ond bydd croeso mawr yn yr Archif i unrhyw ffilmiau sine neu riliau 8mm a ddaw i law...

Bydd diwrnod cadwraeth Sadwrn Seliwloid yn ddiwrnod pleserus i selogion ffilm, i staff yr Archif ac i bawb.

Nodiadau:
Diwrnod Cadwraeth LlGC: Sadwrn Seliwloid: Cadwraeth Ffilm
  • Amnest Ffilm - 1 pm (Mynediad am Ddim)
  • Gweithdy Cadwraeth Ffilm - 2 pm (Mynediad am Ddim)
  • This film is dangerous - 3 pm (Pris: £5)
  • I gael tocynnau ffoniwch swyddfa docynnau LlGC/y Drwm: 01970 632548
Cyswllt y Wasg: Llinos Medi Jones, Swyddog Marchnata a Digwyddiadau: 01970 632 828