Delwedd pennawd Newyddion
Tudalen flaen
English
Criw teledu
Logo LlGC

Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ci cartŵn o Gymru i ymddangos yn Efrog Newydd!

Anghofiwch am Goofy, Mickey a Felix the Cat hyd yn oed - gan fod unig gymeriad cartŵn Cymru o oes y ffilmiau mud - y ci drygionus Jerry the Troublesome Tyke - ar fin gwneud ei farc pawennog ar Efrog Newydd!

Y mis hwn mae Jerry, a ymddangosodd mewn 40 o ffilmiau byrion mud Pathe ym Mhrydain rhwng 1925 a 1927, yn mynd i fod yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr UDA - a hynny bron i 80 mlynedd ar ôl iddo gael ei eni yng Nghaerdydd. Y pryd hwnnw ef oedd 'Ateb Prydain i Felix' - y gath animeiddiedig oedd mor boblogaidd ymysg cynulleidfaoedd Americanaidd (a Phrydeinig) y cyfnod - ac roedd yn seren fawr ym myd y sinema am bron i ddegawd yn ystod anterth oes y ffilmiau mud.

A heddiw mae Jerry, creadigaeth y tafluniwr o Gaerdydd Sid Griffiths, ar fin gwneud ei farc am y tro cyntaf yn Efrog Newydd, mewn dangosiadau yn y Museum of Modern Art. Mae'n ymddangos ar ôl i staff yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ddod o hyd i'r hen gartwnau a'u hachub o ddifancoll. Bydd tri o'r ffilmiau, A Sticky Business (c1926) A Flash Affair (1926) a In and Out of Wembley (1925), yn cael eu dangos ar Fehefin 13 a 19 (gyda'r ffilm gomedi fud Stage Struck - un o ffilmiau seren fawr Sunset Boulevard, Gloria Swanson). Mae'r arlwy'n rhan o Ŵyl Cadwraeth ffilm bwysig sydd wedi cael ei threfnu gan archif ffilm MoMA - a'r gobaith yw y bydd y cyfuniad anarferol o ddigwyddiadau byw ac animeiddio a welir yn y cartŵnau (mae'r animeiddiwr Sid yn aml i'w weld ar y sgrîn yn dadlau gyda'i gymeriad cartŵn) yn hudo'r gynulleidfa.

"Mae Jerry yn rhyfedd ac yn ddiddorol. Mae'n gwbl wahanol i gymeriadau cartŵn annwyl a diniwed yr 1910au a'r 20au,' medd Dave Berry - yr hanesydd ffilm nodedig a Swyddog Ymchwil yr Archif Gymreig. "Mae e'n ddoniol iawn ond mae e hefyd yn ddiamynedd ac yn fodern iawn - yn mynnu cael popeth NAWR. Mae e'n aml yn greulon ac yn ddrwg - mae e'n aml i'w weld yn dwyn neu yn taro ci neu anifail arall ar ôl cael ei bryfocio..."

Mae ail-ymddangosiad diweddar Jerry - sydd bellach wedi cael ei fabwysiadu yn fascot ac yn logo i Grwp Animeiddio Cymru - yn dod ar ôl i AGSSC ddarganfod fod bob un o'r 40 o ffilmiau'r ci bach yng nghyn-bencadlys Prydeinig y cwmni Pathe yn Pinewood. Trefnodd yr Archif i adfer y ffilmiau mewn prosiect ar y cyd gyda'r cwmni.

Ac i ychwanegi at atgyfodiad Jerry mae BBC Cymru, mewn menter cwbl wahanol, wedi comisiynu'r cerddor John Rea i gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd â'r cartŵnau, ac eisoes mae 3 rhifyn digidol wedi ymddangos ar BBC2W - ymddangosodd y ci drygionus i gyfeiliant cerddorion Cerddorfa Genedlaethol Cymru'r BBC. Mae 14 rhifyn digidol o 'Jerry' wedi cael eu creu gan y 'Beeb'.

Yn wreiddiol roedd cyfres ffilmiau Jerry the Troublesome Tyke - a gyd-gyfarwyddwyd gan Griffiths a'r ffotograffydd AJ (Bert) Bilby, tafluniwr arall o Gaerdydd - yn cael eu dangos bob pythefnos fel rhan arlwy 'cylchgronau ffilm' y Pathe Pictorial. Yn sgil poblogrwydd y ffilmiau ymunodd animeiddiwr arall - Barry White - â'r tîm i'w cynorthwyo i gyflawni eu gwaith o fewn yr amserlen bythefnosol tynn. Gwnaethpwyd mwy o rifynnau o Jerry nag a wnaethpwyd o unrhyw anifail neu greadigaeth cartŵn arall yn ystod oes y ffilmiau mud.

Llynedd dangoswyd cartŵnau Jerry ym mhrif Ŵyl ffilm y byd yn Sacile, yr Eidal, a bydd rhai o anturiaethau'r ci cartŵn i'w gweld yng Ngŵyl Ffilm Caergrawnt fis Gorffennaf.

Nodiadau: