Chwilio'r Catalog Arlein
Mae dros 3,000 o ffilmiau yng nghasgliad yr Archif. Yn y catalog hwn ceir gwybodaeth am groesdoriad cynrychioliadol ohonynt - ac fe ychwanegir at y detholiad yn rheolaidd.
Fe ddylai'r wybodaeth sydd yn y cofnodion catalog fod yn ddigonol ar gyfer llawer o anghenion ymchwil, ond mae gwybodaeth fwy manwl ar gael - cysyllter â staff yr Archif. Er enghraifft, gall staff roi gwybod a oes disgrifiadau llawnach o gynnwys y ffilmiau ar gael. Enghraifft arall yw cydnabyddiaethau: mewn llawer o achosion bydd rhestr lawnach i'w chael yn yr Archif nag sy'n ymddangos yma.
Os bydd pori'r detholiad hwn neu'r mynegeion (gw. isod) yn codi eich chwilfrydedd i wybod am ffilmiau eraill yn y casgliad, mae croeso i chi gysylltu â'r staff, fydd yn barod iawn i'ch cynorthwyo.
Y Catalog Ffilm Arlein - chwilio'r mynegeion
Gellir chwilio'r catalog hwn drwy bori'r mynegeion canlynol
- teitlau
- pynciau
- llefydd
- pobl
Gallwch chwilio drwy
- ddewis a chlicio ar deitl yn y mynegai teitlau (sy'n ymddangos yn nhrefn yr wyddor). Bydd hyn yn eich arwain i gofnod catalog o'r ffilm sy'n dwyn y teitl, yn cynnwys disgrifiad byr o'i chynnwys.
- dewis a chlicio ar bwnc yn y mynegai pynciau (sy'n ymddangos yn nhrefn yr wyddor). Bydd hyn yn eich arwain at restr, yn nhrefn yr wyddor, o'r teitlau sy'n cynnwys neu'n adlewyrchu'r pwnc a ddewiswyd. Bydd clicio ar deitl yn eich arwain at gofnod catalog o'r ffilm, yn cynnwys disgrifiad byr o'i chynnwys.
- dewis a chlicio ar enw lle (tref, pentref, sir, etc.) yn y mynegai lleoedd (sy'n ymddangos yn nhrefn yr wyddor). Bydd hyn yn eich arwain at restr, yn nhrefn yr wyddor, o'r teitlau sy'n adlewyrchu'r lle a ddewiswyd. Bydd clicio ar deitl yn eich arwain i gofnod catalog o'r ffilm, yn cynnwys disgrifiad byr o'i chynnwys.
- ddewis a chlicio ar enw person yn y mynegai enwau pobl (sy'n ymddangos yn nhrefn yr wyddor). Bydd hyn yn eich arwain at restr, yn nhrefn yr wyddor, o'r teitlau sy'n cynnwys neu'n adlewyrchu y person a ddewiswyd. Bydd clicio ar deitl yn eich arwain i gofnod catalog o'r ffilm, yn cynnwys disgrifiad byr o'i chynnwys.
Chwilio'r Gronfa
Gallwch chwilio'r gronfa gyfan drwy glicio ar y categori y dymunwch chwilio arno (teitl, pwnc, lle neu person), yna teipio eich chwiliad. Er enghraifft, os dymunwch chwilio am ffilmiau am Aberystwyth, cliciwch ar lle, yna teipiwch 'Aberystwyth' . Bydd hyn yn eich arwain at restr, yn nhrefn yr wyddor, o'r ffilmiau sy'n cynnwys Aberystwyth. Bydd clicio ar deitl yn eich arwain at gofnod catalog o'r ffilm, yn cynnwys disgrifiad byr o'i chynnwys
Y Catalog Ffilm Arlein - cynnwys y cofnodion
Bydd y cofnod catalog ar gyfer pob ffilm yn cynnwys y cwbl neu'r rhan fwyaf o'r wybodaeth ganlynol:
- Sain - ffilm gyda thrac sain
- Silent - ffilm a wnaethpwyd heb drac sain
- Mud - ffilm a'i thrac sain wedi diflannu neu ar goll
- Lliw - ffilm liw
- D/G - ffilm ddu a gwyn
- Cymysg - ffilm yn cyfuno lliw a du a gwyn
- Arall - ffilm gyda gwawr neu arlliw, neu wedi ei lliwio mewn rhyw fodd arall
