


Defnyddiwch yr Archif
Un o amcanion yr Archif yw darparu mynediad hwylus, effeithiol ac mor gytbwys â deallusol ag sy'n bosibl i'r casgliadau sydd o dan ein gofal. Rydym yn darparu mynediad i'r Archif a'r casgliadau i unigolion a grwpiau, yma ar y safle a thu hwnt.Rydym yn ceisio sicrhau bod yr Archif mor hygyrch ag sy'n bosibl i bawb:
Unigolion - myfyrwyr ac ymchwilwyr
Grwpiau - addysgol neu gymunedol
Sefydliadau ac elusennau
Cwmnïau - yn cynnwys cwmnïau teledu.
Gwrando a Gwylio
Mae'r Archif yn cynnig gwasanaeth gwylio a gwrando i'r cyhoedd yn Swyddfa'r Archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.Gall yr Archif hefyd ddarparu copïau o eitemau at bwrpasau ymchwil o-bell i ddefnyddwyr allanol at ddibenion penodol.
Mae AGSSC yn rhan o fenter y BUFVC (Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion y Deyrnas Unedig) ac yn darparu deunydd at bwrpasau addysg uwch trwy Brydain.
Gwasanaeth Masnachol
Rydym yn cynnig gwasanaeth masnachol proffesiynol i rai sydd yn dymuno ymchwilio'n drwyadl a gwneud defnydd masnachol o'r eitemau yn ein gofal.Rhestr Prisiau cyfredol yr Archif. (Diweddarwyd 04/06)
Mynediad Pellach
Ymweliadau
Rydym yn croesawu grwpiau, yn fyfyrwyr, cymdeithasau a sefydliadau i ymweld â'r Archif - naill ai i'r Drwm neu i Swyddfa'r Archif yn LlGC.Mae tîm yr Archif yn derbyn gwahoddiadau gan gymdeithasau a grwpiau allanol. Rydym yn cynnal sioeau cymunedol ac yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd blynyddol, gwyliau a digwyddiadau perthnasol ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
Darparu Deunydd ar gyfer Dangosiadau neu Arddangosfeydd Allanol
Gallwn ddarparu deunydd ar gyfer sioeau ffilm, gwyliau neu ddigwyddiadau.Gallwn ddarparu deunydd ar gyfer arddangosfeydd ar amryw o themâu a phynciau.
Gwasanaethau Eraill:
Benthyg offer ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau yn LlGC
Benthyg offer i brosiectau allanol perthnasol
Adnoddau fideogynadledda ar safle LlGC.


