

Casgliadau
Chwiliwch y casgliad ffilm
Chwiliwch ran o'r casgliad sain - Cronfa Recordiau 78cyf
Mae'r Archif yn eang iawn o ran cynnwys. Mae'n cwmpasu pob agwedd ar ddiwylliant a bywyd Cymru a'r Cymry fel y mae wedi ei groniclo gan y cyfryngau clyweledol, sef recordiadau sain, fideo a ffilm, ac i raddau, y cyfryngau digidol diweddaraf.
Ceir felly ymhlith y casgliad ddarllediadau teledu a radio, recordiadau sain a ffilmiau amatur, recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau, ffilmiau a fideos masnachol ar bob pwnc dan haul - o chwaraeon i ryfel, o newyddion i raglenni hanes, o gelf i'r diwydiant glo a'r chwareli, o wleidyddiaeth i operâu sebon, o gerddoriaeth bop i Bobol y Cwm, o ganu gwlad i Gwm Hyfryd, o hanes llafar i ganu aflafar.
Yma hefyd y mae esiamplau niferus o ddeunydd sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru, ac sy'n gymorth i osod gweddill y casgliadau mewn cyd-destun ehangach:
dros 5.5m troedfedd o ffilm
dros 250,000 awr o fideo
dros 200,000 awr o recordiadau sain
miloedd o dapiau, recordiau a chryno-ddisgiau.
Os oes gennych ddeunydd ffilm, fideo neu sain a allai fod o ddiddordeb i AGSSC, neu wybodaeth am weithgaredd ffilmio neu recordio yn eich maes a'ch ardal, byddai staff yr Archif yn falch iawn o glywed oddi wrthych. Derbynnir pob rhodd ac adnau drwy gytundeb pwrpasol nad yw'n effeithio mewn unrhyw fodd ar hawliau sydd yn y deunydd.
Os hoffech chi gyflwyno eitem fel hyn i ofal yr Archif, cysyllter ag Elen Jones - 01970 632533 / etj@llgc.org.uk.


