Rhagair
Croeso i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, cartref i gasgliadau cyfoethog a dihafal o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiadau sain a cherddoriaeth yn ymwneud â Chymru a'r Cymry.Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn gyfrifol am ddiogelu a dathlu etifeddiaeth sain a delweddau symudol Cymru. Rydym yn casglu, yn catalogio, yn gwarchod ac yn rhannu ein deunydd gyda'r cyhoedd.
Mae'r casgliad yn cynnwys:
dros 5.5m troedfedd o ffilm
dros 250,000 awr o fideo
dros 200,000 awr o recordiadau sain
miloedd o dapiau, recordiau a chryno-ddisgiau.
Erbyn hyn mae y staff yn gweithio yn swyddfa newydd sbon yr Archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle'r agorwyd awditoriwm 100-sedd - y Drwm - yn 2004, yn llwyfan ar gyfer dehongli a dathlu'r casgliadau.
Mae'r Archif yn aelod o:
Fforwm Archifau Ffilm y Deyrnas Unedig
FIAF (Ffederasiwn Rhyngwladol Archifau Ffilm)
FOCAL (Ffederasiwn Rhyngwladol Archifau Clyweledol Masnachol Cyf)
IASA (Mudiad Archifau Sain Rhyngwladol)


